2012 Rhif (Cy.  )

CARTREFI SYMUDOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl) (Cymru) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys yng Nghymru'n unig, yn rhoi i dribiwnlys eiddo preswyl (“tribiwnlys”) awdurdodaeth o dan Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 (p. 34) (“Deddf 1983”) drwy addasu darpariaethau sydd wedi eu cynnwys yn y Ddeddf honno a Deddf Tai 2004 (“Deddf 2004”). Mae Deddf 1983, sy'n rhychwantu Cymru a Lloegr, a'r Alban, yn gymwys i unrhyw gytundeb y mae gan berson hawl oddi tano i osod cartref symudol ar dir sy'n rhan o safle gwarchodedig ac i feddiannu'r cartref symudol fel ei unig neu brif breswylfa.

Mae Deddf 1983 a Deddf 2004 wedi eu haddasu yn Lloegr gan Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 (Awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl) (Lloegr) 2011 (O.S. 2011/1005) o ganlyniad i roi awdurdodaeth i dribiwnlysoedd mewn perthynas  â Lloegr. Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau cyfatebol i Ddeddf 1983 fel y'i haddaswyd ac i Ddeddf 2004 o ganlyniad i roi awdurdodaeth i dribiwnlysoedd mewn perthynas â Chymru.

Mae erthygl 3 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf 1983 sy'n ganlyniad i roi awdurdodaeth i dribiwnlysoedd.  Yn benodol, mae erthygl 3(5) yn diwygio adran 4 o Ddeddf 1983 (sy'n rhoi awdurdodaeth i'r llysoedd) fel bod gan dribiwnlys awdurdodaeth i benderfynu unrhyw gwestiwn sy'n codi o dan Ddeddf 1983 neu unrhyw gytundeb y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo ac i ystyried unrhyw achos a ddygir o dan y Ddeddf honno neu unrhyw gytundeb o'r fath mewn perthynas â safle gwarchodedig sydd wedi ei leoli yng Nghymru. Yr unig gwestiynau y bydd awdurdodaeth drostynt yn parhau i berthyn i'r llys yw'r rhai sy'n ymwneud â phenderfynu a ganiateir i gytundeb gael ei derfynu ar unrhyw un neu rai o'r seiliau ym mharagraffau 4, 5 neu 5A(2)(b) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (“y darpariaethau terfynu”). Yn ychwanegol, pan fo cytundeb cymrodeddu eisoes yn bod, mae adran 4 yn darparu mai gan y tribiwnlys, yn hytrach na'r cymrodeddwr, y bydd awdurdodaeth i benderfynu cwestiynau, gan gynnwys y rhai sy'n codi o dan y darpariaethau terfynu.

Mae erthygl 3(7) yn diwygio'r telerau sydd ymhlyg ym Mhennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983.  Telerau ymhlyg yw’r rhain sy'n gymwys i leiniau ar bob safle gwarchodedig yng Nghymru a Lloegr ac eithrio safleoedd sipsiwn a theithwyr awdurdodau lleol. Yn benodol—

(a)     mae diwygiadau wedi eu gwneud i baragraff 5A o Bennod 2 o Ran 1 o  Atodlen 1, o ran safleoedd gwarchodedig yng Nghymru, sy'n darparu bod y llys yn cadw'r awdurdodaeth  i benderfynu a yw'n rhesymol i berchennog safle, o ystyried canfyddiadau ffeithiol y tribiwnlys, derfynu cytundeb pan fo'r cartref symudol yn cael effaith niweidiol ar amwynder safle; a

(b)     mae paragraffau 8 a 17 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 wedi eu diwygio i osod terfyn amser ar hawl meddiannydd i wneud apêl i'r tribiwnlys o dan y darpariaethau hynny. Caiff y tribiwnlys dderbyn ceisiadau y tu allan i'r terfyn amser os oes rhesymau da dros wneud hynny.

Mae erthygl 4 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf 2004. Mae adran 230(1) a (2) o Ddeddf 2004 yn rhoi i dribiwnlys eiddo preswyl bŵer cyffredinol drwy orchymyn i roi unrhyw gyfarwyddiadau y mae'r tribiwnlys yn barnu eu bod yn angenrheidiol neu'n ddymunol i sicrhau bod yr achos neu unrhyw fater sy'n cael ei godi ynddo neu mewn cysylltiad ag ef yn cael ei benderfynu'n gyfiawn, yn hwylus ac yn ddarbodus. Mae erthygl 4(2) yn mewnosod adran 230(5A) newydd yn Neddf 2004 sy'n darparu, pan fo awdurdodaeth yn cael ei harfer o dan Ddeddf 1983, bod y cyfarwyddiadau y caiff tribiwnlys eu rhoi yn cynnwys y rhai a restrir yn yr is-adran honno. Mae erthygl 4(3) yn diwygio Atodlen 13 i Ddeddf 2004, ac yn benodol mae lefel y costau y caiff tribiwnlys eu dyfarnu mewn achosion eithriadol wedi ei diwygio fel bod yr uchafswm am gais o dan Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 yn £5,000.

Mae erthygl 5 yn gwneud darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed.

Mae asesiad effaith wedi ei baratoi mewn cysylltiad â'r offeryn hwn. Gellir cael copi gan y Gyfarwyddiaeth Tai, Llywodraeth Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.


2012 Rhif (Cy.  )

CARTREFI SYMUDOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl) (Cymru) 2012

Gwnaed                                                       ***

Yn dod i rym                             21 Mawrth 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 229(3) a (4) a 250(2) o Ddeddf Tai 2004([1]) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 250(6) o Ddeddf Tai 2004 a pharagraff 34 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl) (Cymru) 2012 a daw i rym ar 21 Mawrth 2012.

(2) Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol 1983([2]); ac

ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw'r dyddiad y mae'r Gorchymyn hwn yn dod i rym.

Awdurdodaeth tribiwnlysoedd eiddo preswyl mewn perthynas â chartrefi symudol

2. Mae’r awdurdodaeth o dan Ddeddf 1983 a bennir yn rhinwedd y diwygiadau a wnaed i’r Ddeddf honno ac i Ddeddf Tai 2004 gan y Gorchymyn hwn wedi ei rhoi i dribiwnlys eiddo preswyl.

Diwygio Deddf 1983

3.(1)(1) Mae Deddf 1983 wedi ei diwygio yn unol â'r paragraffau canlynol.

(2) Yn adran 1(5) a (6) (manylion cytundebau) yn lle “court” rhodder “appropriate judicial body”.

(3) Yn  adran 2 (telerau cytundebau) yn is-adrannau (2), (3) a (4) yn lle “court”, pryd bynnag y mae’n ymddangos, rhodder “appropriate judicial body”.

(4) Yn  adran 2A (pŵer i ddiwygio telerau ymhlyg) yn is-adran (3)(a) ar ôl “the court”, yn y ddau le, mewnosoder “or a tribunal”.

(5) Yn adran 4 (awdurdodaeth tribiwnlys neu’r llys: Cymru a Lloegr)—

(a)     yn is-adrannau (1) a (3), ar ôl “England” mewnosoder “or in Wales”;

(b)     hepgorer is-adran (7).

(6) Yn is-adran (1) o adran 5 (dehongli)—

(a)     o flaen y diffiniad o “the appropriate national authority” mewnosoder—

“the  appropriate judicial body” means whichever of the court or a tribunal has jurisdiction under section 4;”,

(b)     ar ôl y diffiniad o “the appropriate national authority” mewnosoder—

“arbitration agreement” means an agreement in writing to submit to arbitration any question arising under this Act or any agreement to which it applies;”,

(c)     yn y diffiniad o “the court” ym mharagraff (a) yn lle’r geiriau o “agreed” i “arbitration” rhodder “entered into an arbitration agreement that applies to the question to be determined”, ac

(ch)  ar ôl y diffiniad o “protected site” mewnosoder—

“a tribunal” means a residential property tribunal([3]) or, where the parties have entered into an arbitration agreement that applies to the question to be determined and that question arose before the agreement was made, the arbitrator.”

(7) Ym Mhennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 (cytundebau sy’n ymwneud â lleiniau yng Nghymru a Lloegr ac eithrio lleiniau yn Lloegr ar safleoedd sipsiwn a theithwyr awdurdodau lleol a safleoedd sipsiwn a theithwyr cynghorau sir)—

(a)     ym mharagraff 1 (cyfnod y cytundeb) yn lle “or 6” rhodder “or 5A”,

(b)     ym mharagraff 4 (terfynu gan y perchennog) yn lle “court” rhodder “appropriate judicial body”,

(c)     ym mharagraff 5 (terfynu gan y perchennog) yn lle “court” rhodder “appropriate judicial body”,

(ch)  ym mharagraff 5A, hepgorer is-baragraff (1),

(d)     hepgorer paragraff 6,

(dd)  ym mharagraff 8 (gwerthu cartref symudol i berson a gymeradwywyd gan y perchennog)—

                           (i)    yn is-baragraff (1E), yn lle “court”, pryd bynnag y mae'n ymddangos, rhodder “appropriate judicial body”, a

                         (ii)    ar ôl  is-baragraff (1G), mewnosoder—

(1H) Subject to sub-paragraph (1I), an application to a tribunal under sub-paragraph (1E) by an occupier must be made—

(a)   within the period of three months beginning with the day after the date on which the occupier receives notice of the owner’s decision under sub-paragraph (1B); or

(b)  where the occupier receives no notice from the owner as required b y sub-paragraph (1B), within the period of three months beginning with the date which is 29 days after the date upon which the occupier served the request under sub-paragraph (1A).

(1I) A tribunal may permit an application under sub-paragraph (1E) to be made to the tribunal after the applicable period specified in sub-paragraph (1H) if it is satisfied that, in all the circumstances, there are good reasons for the failure to apply before the end of that period and for any delay since then in applying for permission to make the application out of time.”

(e)     ym mharagraff 9 (rhodd cartref symudol), yn is-baragraff (2) yn lle “(1G)” rhodder “(1I)”,

(f)      ym mharagraff 10 (ail-leoli cartref symudol), yn is-baragraffau (1)(a) a (2), yn lle “court” rhodder “appropriate judicial body”,

(ff)  ym mharagraff 16 (y ffi llain), ym mharagraff (b), yn lle “court” rhodder “appropriate judicial body”,

(g)      ym mharagraff 17 (adolygu’r ffi llain)—

                           (i)    yn lle “court”, pryd bynnag y mae'n ymddangos, rhodder “appropriate judicial body”,

                         (ii)    yn is-baragraff (5) hepgorer y geiriau     “, in the case of an application in relation to a protected site in England,”,

                       (iii)    yn is-baragraff (9) hepgorer y geiriau     “, in the case of an application in relation to a protected site in England,”, a

                        (iv)    yn is-baragraff (9A) hepgorer y geiriau “in relation to a protected site in England”,

 (ng) ym mharagraff 18 (penderfynu ffi llain), yn is-baragraff (1)(a)(iii), yn lle “court” rhodder “appropriate judicial body”,

(h)     ym mharagraff 19 (penderfynu ffi llain), yn is-baragraff (2) hepgorer y geiriau “In the case of a protected site in England,”, ac

(i)      ym mharagraff 28 (cymdeithas preswylwyr cymwys), yn is-baragraff (1)(h), yn lle “court” rhodder “appropriate judicial body”.

(8) Ym mhennawd Rhan 2 o Atodlen 1 (materion y gall telerau gael eu  hymhlygu amdanynt gan lys) yn lle “court” rhodder “appropriate judicial body”.

Diwygio Deddf Tai 2004

4.(1)(1) Mae Deddf Tai 2004 wedi ei diwygio yn unol â'r paragraffau canlynol.

(2) Yn adran 230 (pwerau a gweithdrefn tribiwnlysoedd eiddo preswyl) ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(5A) When exercising jurisdiction under the Mobile Homes Act 1983, the directions which may be given by a tribunal under its general power include (where appropriate)—

(a)   directions requiring the payment of money by one party to the proceedings to another by way of compensation, damages or otherwise;

(b)  directions requiring the arrears of pitch fees or the recovery of overpayments of pitch fees to be paid in such manner and by such date as can be specified in the directions;

(c)   directions requiring cleaning, repairs, restoration, re-positioning or other works to be carried out in connection with a mobile home, pitch or the protected site in such manner as may be specified in the directions;

(d)  directions requiring the establishment, provision or maintenance of any service or amenity in connection with a mobile home, pitch or protected site in such manner as may be specified in the directions.

(5B) In subsection (5A)—

“mobile home” and “protected site” have the same meaning as in the Mobile Homes Act 1983 (see section 5 of that Act);

“pitch” has the meaning given by paragraph 1(4) of Chapter 1 of Part 1 of Schedule 1 to that Act;

“pitch fee” has the meaning given in paragraph 29 of Chapter 2, paragraph 13 of Chapter 3, or paragraph 27 of Chapter 4, of Part 1 of Schedule 1 to that Act, as the case may be.”

(3) Yn Atodlen 13 (tribiwnlysoedd eiddo preswyl: y weithdrefn)—

(a)     yn lle'r pennawd mewn llythrennau italig sydd o flaen paragraff 2, rhodder “Applications and appeals”,

(b)     ym mharagraff 3 (trosglwyddiadau) yn is-baragraff (6) ar ôl “this Act” mewnosoder “or the Mobile Homes Act 1983”,

(c)     ym mharagraff 8 (rhyddhad ychwanegol) yn is-baragraff (2) ar ôl y geiriau “this Act” mewnosoder “or any provision of the Mobile Homes Act 1983”, ac

(ch) ym mharagraff 12 (costau)  yn is-baragraff (3)(a) ar ôl  “£500” mewnosoder “or, in the case of an application to a tribunal under the Mobile Homes Act 1983, £5,000”.

Darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed

5.(1)(1) Yn ddarostyngedig i'r canlynol, mae'r diwygiadau a wnaed gan y Gorchymyn hwn yn gymwys o ran cytundeb mewn cysylltiad â thir sy'n rhan o safle gwarchodedig yng Nghymru y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo a hwnnw'n gytundeb a wnaed cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yn ogystal ag o ran cytundeb o'r fath a wnaed ar y dyddiad y daeth y Gorchymyn hwn i rym neu ar ôl hynny.

(2) Nid yw unrhyw ddiwygiad a wnaed gan y Gorchymyn hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wnaed gan y llys cyn i'r Gorchymyn ddod i rym.

(3) Nid yw'r diwygiadau a wnaed gan y Gorchymyn hwn yn gymwys—

(a)     at ddibenion unrhyw achos a gychwynnwyd, nac unrhyw geisiadau a wnaed i'r llys cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, neu

(b)      o ran unrhyw fater sy'n destun unrhyw achos a gychwynnwyd, nac unrhyw geisiadau a wnaed i'r llys, cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

(4) Mae paragraff (5) yn gymwys os yw unrhyw un o'r canlynol yn wir cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym—

(a)     bod meddiannydd safle gwarchodedig yng Nghymru wedi cyflwyno archiad i berchennog o dan baragraff 8(1A) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (neu'r paragraff hwnnw fel y'i cymhwysir gan baragraff 9(2) o'r Bennod honno) ond nad oes unrhyw gais ynglŷn â'r archiad hwnnw wedi ei wneud i'r llys o dan baragraff 8(1E) o Bennod 2 (neu'r paragraff hwnnw fel y'i cymhwysir gan baragraff 9(2) o'r Bennod honno),

(b)     bod perchennog safle gwarchodedig yng Nghymru wedi cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 17(2) o Bennod 2 ond nad oes unrhyw gais ynglŷn â'r hysbysiad hwnnw wedi ei wneud i'r llys o dan baragraff 17(4) o'r Bennod honno, neu

(c)     bod perchennog safle gwarchodedig yng Nghymru wedi cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 17(6)(b) o Bennod 2 yr Atodlen honno ond nad oes unrhyw gais ynglŷn â'r hysbysiad hwnnw wedi ei wneud i'r llys o dan baragraff 17(8) o'r Bennod honno.

(5) Os yw'r cais i'r llys a grybwyllwyd ym mharagraff (4)(a), (b) neu (c) wedi ei wneud ar neu cyn y dyddiad sy'n flwyddyn ar ôl y dyddiad cychwyn, ni fydd y diwygiadau a wnaed gan y Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â'r cais hwnnw.

(6) Nid yw'r diwygiadau a wnaed gan erthygl 3(2) a (3), i'r graddau y maent yn ymwneud â darpariaethau Deddf 1983 a fewnosodwyd gan adran 206(1) neu (2) o Ddeddf Tai 2004, yn gymwys mewn perthynas â chytundebau cyn 2005.

(7)  Ond, mewn perthynas  â chytundebau cyn 2005,  mae adrannau 1 a 2 o Ddeddf 1983, fel y maent yn gymwys i'r cytundebau hynny, yn cael effaith fel petai'r cyfeiriadau at y llys yn gyfeiriadau at dribiwnlys.

(8)  Yn y modd y mae'n gymwys i gytundebau y mae Deddf 1983 yn gymwys iddynt a'r rheini'n gytundebau a wnaed cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, mae'r Gorchymyn hwn yn cael effaith fel petai'r canlynol wedi ei wneud—

(a)     yn adran 4(3)(a), a fewnosodwyd gan erthygl 3(5) yn Neddf 1983, bod y geiriau “paragraph 4, 5 or 5A(2)(b) of Chapter 2, or” a “Chapter 4 of” wedi eu hepgor, a

(b)      yng ngeiriau agoriadol erthygl 3(7), bod y geiriau “Chapter 2 of” wedi eu hepgor.

(9) Mae unrhyw gyfeiriad yn yr erthygl hon at wneud cytundeb y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw amrywiad ar gytundeb sy'n peri bod y cytundeb yn dod yn un y mae'r Ddeddf honno'n gymwys iddo.

(10)  Yn yr erthygl hon—

ystyr “cytundeb cymrodeddu” (“arbitration agreement”) yw cytundeb ysgrifenedig i gyflwyno unrhyw gwestiwn a godir o dan Ddeddf 1983 neu unrhyw gytundeb y mae'n gymwys iddo i fynd drwy broses gymrodeddu;

ystyr “cytundebau cyn 2005” (“pre-2005 agreements”) yw cytundebau mewn cysylltiad â thir sy'n rhan o safle gwarchodedig yng Nghymru y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo ond nad yw'r diwygiadau a wnaed gan adran 206(1) a (2) o Ddeddf Tai 2004 yn gymwys iddo yn rhinwedd adran 206(4) o'r Ddeddf honno;

mae “y  llys” (“the court”) a “perchennog” (“owner”) i'w dehongli'n unol â Deddf 1983 fel yr oedd yn cael effaith ar yr adeg berthnasol;

ystyr  “tribiwnlys” (“a tribunal”) yw tribiwnlys eiddo preswyl neu, pan fo'r partïon wedi ymrwymo i gytundeb cymrodeddu sy'n gymwys i'r cwestiwn sydd i'w benderfynu a bod y cwestiwn hwnnw wedi codi cyn i'r cytundeb gael ei wneud, y cymrodeddwr.

 

 

 

 

 

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad

 



([1])           2004 p. 34. Mae’r pwerau a roddwyd gan adran 229(3) a (4) o Ddeddf Tai 2004 yn arferadwy, yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gan Weinidogion Cymru. Gweler y diffiniad o'r “appropriate national authority” yn adran 261(1) o Ddeddf 2004.

([2])           1983 p. 34. Mae Deddf 1983 yn rhychwantu Cymru a Lloegr a’r Alban. Mae wedi ei diwygio’n sylweddol, o ran Cymru a Lloegr, gan adrannau 206 i 208 o Ddeddf Tai 2004 a chan Orchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3151 (Cy.268)) o ran Cymru.                          

([3])           Drwy adran 229 o Ddeddf Tai 2004 (p. 34) caniateir i unrhyw awdurdodaeth tribiwnlys eiddo preswyl gan neu o dan ddeddfiad gael ei harfer gan bwyllgor asesu rhenti sydd wedi ei gyfansoddi'n unol ag Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42).